Deallusrwydd Artiffisial (AI) a’r gweithlu – Beth ydy’r dyfodol?

Dyddiad: Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023
Amser: 8:00 – 10:00yb
Lleoliad: Swyddfa RBC Brewin Dolphin, Trydydd Llawr, Dau Sgwar Canolog, Caerdydd, CF10 1FS

 

* Please note: This is a Welsh language event only *

 

Ymunwch a ni am gyflwyniad gan Microsoft ac yna trafodaeth panel gan gynnwys Pugh Computers a RBC Brewin Dolphin am Ddeallusrwydd Artiffisial ac yr effaith y bydd yn cael ar gweithio yn y dyfodol.

Mae hyn yn pwnc llosg ac felly’n cyfle gwych i glywed barn arbenigwyr ar y testun ac i ofyn cwestiynnau perthnasol i’ch diwydiant.

 

8:00yb: Coffi a cyfle i rhwydweithio

8:30yb: Digwyddiad yn dechrau

9:30yb: Digwyddiad yn gorffen a cyfle pellach i rhwydweithio

 

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau ar AI gan Kate Jefferyes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol NHS Microsoft, yn ddylyn gyda thrafodaeth panel. Fydd Eifion Evans, ein Cyfarwyddwr Technoleg, yn aelod o’r panel.

Fydd hefyd cyfle i rwydweithio dros frecwast ac i gwrdd ag aelodau o dîm Pugh Computers Ltd. Fydd Elfed Jenkins ar gael i drafod sut i greu Man Cyfarfod Modern a chyfle i brofi’r Sgrin Ryngweithiol newydd SMART Technologies i fusnesau.